Job 34:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pwy sydd fel Job,yn drachtio dirmyg fel dŵr,

8. yn cadw cwmni â rhai ofer,ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?

9. Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i nebymhyfrydu yn Nuw.’

10. “Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.

11. Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.

12. Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.

13. Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,a rhoi'r byd cyfan iddo?

Job 34