Job 34:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;trenga'r cyfoethog, a diflannu;symudir ymaith y cryf heb ymdrech.

21. “Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,a gwêl ei holl gamau.

22. Nid oes tywyllwch na chadduglle y gall drwgweithredwyr guddio.

23. Nid oes amser wedi ei drefnui neb ddod i farn o flaen Duw;

24. y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi,ac yn gosod eraill yn eu lle.

Job 34