Job 32:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,

3. a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.

4. Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.

5. Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.

6. Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:“Dyn ifanc wyf fi,a chwithau'n hen;am hyn yr oeddwn yn ymatal,ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.

Job 32