Job 32:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’

11. “Bûm yn disgwyl am eich geiriau,ac yn gwrando am eich deallusrwydd;tra oeddech yn dewis eich geiriau,

12. sylwais yn fanwl arnoch,ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,nac ateb ei ddadleuon.

13. Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;Duw ac nid dyn a'i trecha.

14. Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.

15. “Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;pallodd geiriau ganddynt.

16. A oedaf fi am na lefarant hwy,ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?

Job 32