Job 31:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “A euthum ar ôl oferedd,a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?

6. Pwyser fi mewn cloriannau cywiri Dduw gael gweld fy nghywirdeb.

7. Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,a'm calon yn dilyn fy llygaid,neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,

8. yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,a diwreiddir yr hyn a blennais.

9. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

Job 31