Job 31:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd,ac yn cyfrif fy nghamau?

5. “A euthum ar ôl oferedd,a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?

6. Pwyser fi mewn cloriannau cywiri Dduw gael gweld fy nghywirdeb.

7. Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,a'm calon yn dilyn fy llygaid,neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,

8. yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,a diwreiddir yr hyn a blennais.

9. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

10. yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.

Job 31