Job 30:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y maent yn nadu o ganol y perthi;closiant at ei gilydd o dan y llwyni.

8. Pobl ynfyd a dienw ydynt;fe'u gyrrwyd allan o'r tir.

9. “Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;yr wyf yn destun gwawd iddynt.

10. Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.

11. Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.

12. Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.

13. Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.

14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.

15. Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.

16. “Yn awr llewygodd fy ysbryd,cydiodd dyddiau cystudd ynof.

17. Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,ac ni lonydda fy nghnofeydd.

Job 30