Job 30:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.

15. Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.

16. “Yn awr llewygodd fy ysbryd,cydiodd dyddiau cystudd ynof.

17. Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,ac ni lonydda fy nghnofeydd.

18. Cydiant yn nerthol yn fy nillad,a gafael ynof wrth goler fy mantell.

19. Taflwyd fi i'r llaid,ac ystyrir fi fel llwch a lludw.

Job 30