Job 29:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. peidiai'r arweinwyr â llefaru,a rhoddent eu llaw ar eu genau;

10. tawai siarad y pendefigion,a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.

11. “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;

12. oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,a'r amddifad a'r diymgeledd.

13. Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,a gwnawn i galon y weddw lawenhau.

Job 29