Job 20:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. byr yw gorfoledd y drygionus,ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.

6. Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,

7. eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’

8. Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.

Job 20