Job 19:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;os ceisiaf help, ni chaf farn deg.

8. Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.

9. Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,a symudodd y goron oddi ar fy mhen.

10. Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.

11. Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.

12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13. “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.

Job 19