Job 18:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.

6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7. Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.

10. Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.

11. Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,ac yn ymlid ar ei ôl.

Job 18