Job 18:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Derfydd y cof amdano o'r tir,ac nid erys ei enw yn y wlad.

18. Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch,ac erlidir ef o'r byd.

19. Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl,nac olynydd iddo yn ei drigfan.

20. Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged,ac arswydant yn y Dwyrain.

21. Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn;hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw.”

Job 18