Job 16:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.

18. “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.

19. Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.

20. Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,

21. fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.

22. Ychydig flynyddoedd sydd i ddodcyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”

Job 16