Job 16:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.

13. Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.

14. Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.

15. “Gwnïais sachliain am fy nghroen,a chuddiais fy nghorun yn y llwch.

16. Cochodd fy wyneb gan ddagrau,daeth düwch ar fy amrannau,

17. er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.

Job 16