Job 16:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd Job:

2. “Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn;cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.

3. A oes terfyn i eiriau gwyntog?Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?

4. Gallwn innau siarad fel chwithau,pe baech chwi yn fy safle i;gallwn blethu geiriau yn eich erbyn,ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5. Gallwn eich calonogi â'm genau,a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.

6. “Os llefaraf, ni phaid fy mhoen,ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.

7. Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf;anrheithiaist fy holl gydnabod.

Job 16