Job 13:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Pwy sydd i ddadlau â mi,i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?

20. Gwna ddau beth yn unig imi,ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:

21. symud dy law oddi arnaf,fel na'm dychryner gan dy arswyd;

22. yna galw arnaf ac atebaf finnau,neu gad i mi siarad a rho di ateb.

23. Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.

24. Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,ac yn f'ystyried yn elyn iti?

25. A ddychryni di ddeilen grin,ac ymlid soflyn sych?

Job 13