Job 12:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,ac i adar y nefoedd fynegi i ti,

8. neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.

9. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gydmai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?

10. Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,ac anadl pob un meidrol.

11. Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?

Job 12