Job 10:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,neu a weli di fel y gwêl y meidrol?

5. A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?

6. Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,ac yn chwilio am fy mhechod,

7. a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,ac nad oes a'm gwared o'th law.

8. “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.

9. Cofia iti fy llunio fel clai,ac eto i'r pridd y'm dychweli.

Job 10