Jeremeia 7:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oni weli'r hyn a wnânt yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

18. Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i.

19. Ai myfi y maent yn ei ddigio?” medd yr ARGLWYDD. “Onid hwy eu hunain, i'w cywilydd eu hunain?”

20. Am hyn fe ddywed yr ARGLWYDD Dduw, “Wele, tywelltir fy llid a'm dicter ar y lle hwn, ar ddyn ac ar anifail, ar bren y ddôl, ac ar ffrwyth y ddaear; bydd yn llosgi heb ddiffodd.”

Jeremeia 7