Jeremeia 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.

2. “Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: ‘Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD.

3. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon.

4. Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, “Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon.”

5. Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd,

Jeremeia 7