Jeremeia 6:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur;y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch,a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”

24. Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo;daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.

25. Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd,oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.

26. Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw;gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw;oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.

27. “Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl,i wybod ac i brofi eu ffyrdd.

Jeremeia 6