Jeremeia 51:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddwgan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd;ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwyddyn erbyn Sanct Israel.

6. Ffowch o ganol Babilon,achubed pob un ei hunan.Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi,canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD;y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.

7. Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD,yn meddwi'r holl ddaear;byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin,a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.

8. Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi;udwch drosti!Cymerwch falm i'w dolur,i edrych a gaiff hi ei hiacháu.

Jeremeia 51