Jeremeia 5:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch;chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gaelsy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd,er mwyn i mi ei harbed hi.

2. Er iddynt ddweud, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’,eto tyngu'n gelwyddog y maent.”

Jeremeia 5