29. Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.
30. Mi wn,” medd yr ARGLWYDD, “ei bod yn haerllug;y mae ei hymffrost yn gelwydd,a'i gweithredoedd yn ffals.
31. Am hynny fe udaf dros Moab;llefaf dros Moab i gyd,griddfanaf dros bobl Cir-heres.
32. Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser,ti, winwydden Sibma;estynnodd dy gangau hyd y môr,yn cyrraedd hyd Jaser;ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythauac ar dy gynhaeaf gwin.
33. Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoleddyn y doldir ac yng ngwlad Moab;gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau,ac ni fydd neb yn sathru â bloddest—bloddest nad yw'n floddest.
34. “Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.