Jeremeia 48:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. “Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau,chwi breswylwyr Moab;byddwch fel colomen yn nythuyn ystlysau'r graig uwch yr hafn.

29. Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.

30. Mi wn,” medd yr ARGLWYDD, “ei bod yn haerllug;y mae ei hymffrost yn gelwydd,a'i gweithredoedd yn ffals.

Jeremeia 48