Jeremeia 48:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Am hynny, wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwacáu ei llestri a dryllio'r costrelau.

13. A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.

14. “Pa fodd y dywedwch, ‘Cedyrn ŷm ni,a gwŷr nerthol i ryfel’?

15. Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny,a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa,”medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

16. “Daeth dinistr Moab yn agos,ac y mae ei thrychineb yn prysuro'n gyflym.

Jeremeia 48