Jeremeia 46:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd,

2. am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:

3. “Cymerwch fwcled a tharian,ewch yn eich blaen i'r frwydr.

4. Cenglwch y ceffylau,marchogwch y meirch,safwch yn barod, pawb â'i helm,gloywch eich gwaywffyn,gwisgwch eich llurigau.

5. Beth a welaf? Y maent mewn braw,ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.

Jeremeia 46