Jeremeia 37:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. ond ni wrandawodd ef, na'i weision na phobl y wlad, ar eiriau'r ARGLWYDD a lefarwyd trwy'r proffwyd Jeremeia.

3. Anfonodd y Brenin Sedeceia Jehucal fab Selemeia a Seffaneia fab Maaseia yr offeiriad at y proffwyd Jeremeia, a dweud, “Gweddïa yn awr drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw.”

4. Yr oedd Jeremeia'n rhodio'n rhydd ymhlith y bobl, oherwydd nid oedd eto wedi ei roi yng ngharchar.

Jeremeia 37