Jeremeia 37:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ple mae eich proffwydi a broffwydodd i chwi a dweud na ddôi brenin Babilon yn eich erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

20. Yn awr, gwrando, f'arglwydd frenin, a doed fy nghais o'th flaen. Paid â'm hanfon yn ôl i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag i mi farw yno.”

21. Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.

Jeremeia 37