Jeremeia 36:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio â llosgi'r sgrôl, ni wrandawai arnynt.

26. Yna gorchmynnodd y brenin i Jerahmeel fab y brenin a Seraia fab Asriel a Selemeia fab Abdiel ddal Baruch yr ysgrifennydd a Jeremeia y proffwyd; ond cuddiodd yr ARGLWYDD hwy.

27. Wedi i'r brenin losgi'r sgrôl a'r holl eiriau a ysgrifennodd Baruch o enau Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

28. “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifenna arni'r holl eiriau oedd yn y sgrôl gyntaf, yr un a losgodd Jehoiacim brenin Jwda.

Jeremeia 36