Jeremeia 34:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

12. A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

13. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,

14. “Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho.” Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.

Jeremeia 34