Jeremeia 34:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.

2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: “Dos a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.

Jeremeia 34