Jeremeia 32:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. ‘Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, “Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu.” ’

8. A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, ‘Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.’ Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd.

9. Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg.

10. Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau.

Jeremeia 32