Jeremeia 31:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;

25. paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”

26. Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.

27. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.

28. Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD.

Jeremeia 31