Jeremeia 31:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:‘Bendithied yr ARGLWYDD di,gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’

24. Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;

25. paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”

26. Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.

Jeremeia 31