Jeremeia 30:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu,amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.

20. Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd;cosbaf bob un a'u gorthryma.

21. Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg;paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf;canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD.

22. “A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.”

23. Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.

24. Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni;yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.

Jeremeia 30