Jeremeia 28:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys torraf iau brenin Babilon.’ ”

5. Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhŷ'r ARGLWYDD,

6. gan ddweud, “Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tŷ'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud.

7. Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl:

Jeremeia 28