Jeremeia 28:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, “Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.

16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”

17. Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Jeremeia 28