Jeremeia 21:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan anfonodd y Brenin Sedeceia ato ef Pasur fab Malcheia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia, a dweud,

2. “Ymofyn â'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?”

3. Dywedodd Jeremeia wrthynt, “Dyma'r hyn a ddywedwch wrth Sedeceia:

4. ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.

Jeremeia 21