Jeremeia 20:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tânwedi ei gau o fewn fy esgyrn.Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.

10. Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”Y mae pawb a fu'n heddychlon â miyn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”

11. Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,fel rhyfelwr cadarn;am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,ac ni orchfygant;gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,ac nid anghofir fyth eu gwarth.

12. O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,ac yn gweld y galon a'r meddwl;rho imi weld dy ddialedd arnynt,canys dadlennais i ti fy nghwyn.

13. Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD.Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.

Jeremeia 20