Jeremeia 2:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “ ‘Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn,’ medd yr ARGLWYDD,‘gan gyhuddo hefyd blant eich plant.

10. Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch;anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.

11. A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau,a hwythau heb fod yn dduwiau?Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.

12. O nefoedd, rhyfeddwch at hyn;arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD.

13. ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,a chloddio iddynt eu hunain bydewau,pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”

14. “Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth?Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?

Jeremeia 2