Jeremeia 2:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn.Gwnaethant ei dir yn ddiffaith,a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.

16. Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.

17. Oni ddygaist hyn arnat dy hun,trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd yn d'arwain yn y ffordd?

18. Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft,i yfed dyfroedd y Neil,neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?

19. Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun,a'th geryddu gan dy wrthgiliad.Ystyria a gwêl mai drwg a chwerwyw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw,a pheidio â'm hofni,” medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.

20. “Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau,a dweud, ‘Ni wasanaethaf’.Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas,plygaist i buteinio.

Jeremeia 2