Jeremeia 19:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A bydd tai Jerwsalem a thai brenhinoedd Jwda fel mangre Toffet, yn halogedig—yr holl dai lle bu arogldarthu ar y to i holl lu'r nefoedd, a lle bu tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill.’ ”

14. Daeth Jeremeia o Toffet, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, a safodd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD, a llefarodd wrth yr holl bobl,

15. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dyma fi'n dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefi, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, am iddynt ystyfnigo a gwrthod gwrando ar fy ngeiriau.’ ”

Jeremeia 19