Jeremeia 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi;er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen:Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?

2. Plennaist hwy, a gwreiddiasant;tyfant a dwyn ffrwyth.Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.

3. Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,ac yn profi fy meddyliau tuag atat.Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.

4. Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”

Jeremeia 12