Ioan 9:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifrïo ac yn dweud wrtho, “Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.

29. Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.”

30. Atebodd y dyn hwy, “Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.

Ioan 9