Ioan 8:45-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu.

46. Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu?

47. Y mae'r sawl sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw. Nid ydych chwi o Dduw, a dyna pam nad ydych yn gwrando.”

48. Atebodd yr Iddewon ef, “Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, ‘Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot’?”

49. Atebodd Iesu, “Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad yr wyf fi, a chwithau'n fy amharchu i.

50. Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu.

51. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth.”

Ioan 8