Ioan 6:66-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

66. O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef.

67. Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?”

68. Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti,

69. ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.”

70. Atebodd Iesu hwy, “Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?”

Ioan 6