Ioan 6:51-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.”

52. Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer â'i gilydd, gan ddweud, “Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?”

53. Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch.

Ioan 6