Ioan 6:43-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd.

44. Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.

45. Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi.

46. Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad.

47. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol.

48. Myfi yw bara'r bywyd.

49. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw.

50. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw.

Ioan 6